Marknadens största urval
Snabb leverans

Böcker utgivna av Melin Bapur

Filter
Filter
Sortera efterSortera Populära
  • av Émile Souvestre
    200,-

    (A new edition of a Welsh language translation of the Emile Souvestre novel La Chevrier de Lorraine)Ffrainc, y 1420au. Mae'r Ffrancod a'r Saeson wedi bod yn brwydro dros oruchafiaeth am ddegawdau, gan droi pob cornel o'r wlad yn faes brwydr. Bugail digon di-nod yw Remy nes i farwolaeth ei dad arwain at ddarganfyddiad annisgwyl am ei orffennol ef ei hun. Gyda'i fentor, y mynach Cyrille, cychwynna Remy ar daith i hawlio'i etifeddiaeth; ar yr un pryd daw sibrydion am yr arwres newydd Jeanne D'Arc, sy'n bwriadu erlid y Saeson o'rwlad unwaith ac am byth. R. Silyn Roberts oedd un o feirdd pennaf y mudiad Rhamantaidd yng Nghymru, ond ysgrifennodd hefyd ddwy nofel yn ystod y 1900au. Cyhoeddwyd Bugail Geifr Lorraine, ei gyfieithiad ef o nofelig hanesyddol Emile Souvestre Le Chevrier de Lorraine, yn wreiddiol yn 1925; mae'r argraffiad newydd hwn mewn orgraff fodern yn cyflwyno'r antur gyffrous hon i ddarllenwyr o'r newydd.

  • av William David Owen
    276,-

    (A classic adventure novel in Welsh set on Anglesey during the early eighteenth century) Sir Fôn, y ddeunawfed ganrif. Mae'r grŵp o ladron penffordd yn ymosod ar yr Yswain ifanc Morys William a dwyn swm nid bach o arian oddi arno. Caiffwybod mai pennaeth y lladron lleol yw Madam Wen, cymeriad y mae dirgelwch yn ei chanlyn i bobman. Yn y cyfamser, wrth ymweld ag ystâd y Penrhyn mae Morys yn cwrdd ag Einir Wyn, merch brydferth sydd wedi tyngu llw y bydd yn adennill y tiroedd a ddygwyd oddi ar ei thad. Pwy yw Madam Wen? Menyw, neu ddrychiolaeth? Lleidr, neu arwres? Person o gig a gwaed, neu'n ddim byd ond sibrwd ar goll yn sŵn y tonnau? Nofel W. D. Owen am ladron penffordd, dirgelwch, cleddyfa, smyglwyr, gwisgoedd ffug, Jacobiniaid, môr-ladron a serch yw nofel antur Gymraeg orau ei oes ac yn Madam Wen ei hun cawn un o gymeriadau mwyaf hynaws llenyddiaeth Gymraeg. Addaswyd y nofel yn ffilm ar S4C yn 1982. Mae'r argraffiad newydd hwn, y cyntaf ers 99 o flynyddoedd, yn cyflwyno'r antur i ddarllenwyr o'r newydd mewn orgraff ddiwygiedig.

  • av R Silyn Roberts
    200,-

    (A new edition of a classic Welsh language mystery novel by R. Silyn Roberts originally published in 1906)"...noson oedd hon i lenwi'r ofnus â braw. Symudai cysgodion y cymylau ar hyd wyneb y ddaear, a newidiai cysgodion brigau'r coed i bob ffurf a llun dan gernodiau ffyrnig gwynt y gorllewin. Awgrymai'r cysgodion ansicr eu dawns bresenoldeb ellyllon a drychiolaethau i'r dychymyg; a swniai'r gwynt trwy'r brigau a'r glaswellt fel rhuthr lleng o ysbrydion anweledig yng ngolau gwan, gwelw'r lloer; cymerai pethau cyffredin ffurfiau annaturiol, a hawdd i feddwl dyn oedd llithro i stad freuddwydiol ac ofnus, ac ymlenwi â hanesion dychrynllyd am ffyrdd a llwybrau lle y cyniweiria ysbrydion anesmwyth eu byd." Ar eu gwyliau yng Nyffryn Llifon, mae Gwynn Morgan a'i gyfaill, y Ffrancwr Ivor Bonnard, yn clywed sibrydion am yr hen adfail rhyfedd, Plas y Nos, ac yn dysgu am hanes arswydus y lle. Wedi iddynt fynd i'w archwilio, mae ar Ivor eisiau gwybod rhagor. Tybed, mewn gwirionedd, ai cyd-ddigwyddiad yw hi eu bod ill dau yno yn y lle cyntaf? Stori ddirgelwch gyffrous sy'n cyflwyno elfennau o syniadaeth rhamantaidd ei hawdur, cyhoeddwyd Llio Plas y Nos gyntaf yn 1906 a'i hail-gyhoeddi ddwywaith yn yr 1940au. Mae'r argraffiad newydd hon mewn orgraff ddiwygiedig yn cyflwyno'r nofel o'r newydd i ddarllenwyr heddiw.

Gör som tusentals andra bokälskare

Prenumerera på vårt nyhetsbrev för att få fantastiska erbjudanden och inspiration för din nästa läsning.