Om Llwyfannu’r Genedl Anghyflawn
Sut mae ysgrifennu drama 'genedlaethol' mewn cenedl ddwyieithog a diwladwriaeth? A yw ymdrech dramodwyr yr 1990au i ddychmygu cenedl amgen ac annibynnol ar lwyfan wedi pylu ers datganoli? Sut y mae lleiafrifoedd eraill wedi dygymod a heriau'r oes honedig ol-fodern ac ol-genedlaethol hon, ac a oes gan eu profiadau wersi i Gymru? Dyma rai o'r cwestiynau y mae nifer o arloeswyr y ddrama Gymraeg gyfoes yn ymhel a nhw yn y gyfrol ddiweddaraf hon yng nghyfres Safbwyntiau. Mae Llwyfannu'r Genedl Anghyflawn yn gasgliad heriol o ysgrifau, wedi ei guradu a'i olygu gan un o'n dramodwyr mwyaf blaengar.
Visa mer